Kirsty Williams AC

 

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pierhead Street

Caerdydd

CF99 1NA

Ebost: kirsty.williams@cymru.gov.uk

Ffôn: 029 2089 8427

 

30 Gorffennaf 2014

 

Annwyl Gyfaill,

 

Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

 

Yn sgil balot a gynhaliwyd gan y Llywydd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno fy mod yn cael cyflwyno cynigion ar gyfer deddf newydd yng Nghymru, i sicrhau niferoedd digonol o staff yn ein gwasanaeth iechyd i ddarparu gofal diogel bob amser. 

 

Yn gynharach eleni, fe fues i’n ymgynghori ac yn ymgysylltu’n helaeth â’r cyhoedd i’m helpu i ddatblygu fy nghynigion ac addewais ganiatáu rhagor o ymgynghori ar ôl i Fil drafft gael ei baratoi. Mae’r gwaith hwnnw wedi’i wneud bellach ac mae’n dda gen i atodi copi o’r Bil drafft er gwybodaeth ichi.

 

Rwy’n ddiolchgar i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad cychwynnol ac mae'n dda gen i ddweud bod y mwyafrif o’r ymatebion yn cefnogi egwyddorion y ddeddfwriaeth hon.  Wrth ddrafftio'r Bil, rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r pwyntiau a godwyd yn yr ymatebion hyn

 

Un thema allweddol a gododd oedd yr angen am bwyslais ar lefelau staffio 'diogel' yn hytrach na lefelau gofynnol.  Felly, rwyf bellach yn bwriadu galw’r ddeddfwriaeth yn 'Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)' ac rwyf wedi anelu at sicrhau y bydd rhychwant y Bil yn darparu ar gyfer dyletswydd ehangach ynghylch lefelau diogel staff nyrsio yn y GIG yng Nghymru. 


Bydd y Bil yn gosod dyletswydd ar gyrff yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i gymryd pob cam rhesymol i gadw at y cymarebau gofynnol a argymhellir rhwng nyrsys a chleifion ar wardiau i oedolion sy’n gleifion mewnol mewn ysbytai acíwt, lle mae'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth yn bodoli ar hyn o bryd.  Bydd darpariaeth i Weinidogion Cymru ymestyn y ddyletswydd hon i leoliadau gofal iechyd eraill wrth i dystiolaeth ynghylch lefelau staffio diogel mewn sectorau eraill gael ei datblygu.  I sicrhau na chaiff adnoddau eu gwyro o feysydd lle nad oes cymarebau gofynnol wedi’u hargymell, ochr yn ochr â hyn mae yna ddyletswydd ar gyrff yn y gwasanaeth iechyd i roi sylw i bwysigrwydd sicrhau bod nyrsys yn cael eu lleoli mewn niferoedd digonol i sicrhau gofal nyrsio diogel i gleifion bob amser.

Bydd y Bil yn i gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gyrff yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, gan nodi'r cymarebau gofynnol a argymhellir. Bydd y canllawiau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer codi cymarebau o'r fath i gymryd anghenion lleol i ystyriaeth.

 

Cododd nifer o'r ymatebion bryderon y gallai lefel ofynnol ddod i gael ei dehongli fel uchafswm.  Er na ddarparwyd tystiolaeth o blaid yr haeriad hwn, rwyf wedi cynnwys darpariaeth benodol yn y Bil fod unrhyw gymhareb yn gallu cael ei chymhwyso tuag i fyny a bod rhaid peidio â’u defnyddio fel terfyn uchaf gan y corff yn y gwasanaeth iechyd y mae cymhareb o'r fath yn gymwys iddo.

 

Thema allweddol arall yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad oedd yr angen i gadw hyblygrwydd er mwyn ymateb i anghenion cleifion ac amgylchiadau lleol.  Gan hynny, bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gyrff yn y gwasanaeth iechyd ar gydymffurfio â'r dyletswyddau ynglŷn â staffio diogel, gan gydnabod mor bwysig yw dulliau ar gyfer cynllunio’r gweithlu ar sail aciwtedd a dibyniaeth, arddel barn broffesiynol, a'r angen am gymysgedd priodol o sgiliau.

 

Byddai'r canllawiau hefyd yn nodi bod rhaid i gynnydd yn nifer y gweithwyr gynnig amddiffyniad i statws uwchrifol rolau penodol, megis rheolwr y ward a myfyrwyr, sef mater arall a amlygwyd gan lawer o’r ymgynghoreion. 

 

Thema allweddol arall yn yr ymatebion oedd pwysigrwydd addysg a datblygu proffesiynol parhaus.  Er bod cyfyngiadau ar gymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol yn hyn o beth, rwyf wedi cynnwys darpariaeth yn y Bil i sicrhau bod cynllunio'r gweithlu yn cynnwys amser ar gyfer hyfforddiant a chymorth.

 

Rwy’n cydnabod bod gwaith i ddatblygu canllawiau ar lefelau diogel staff nyrsio o dan y ddeddfwriaeth hon yn gorfod cynnwys pawb yn y proffesiwn sydd ag arbenigedd ar y mater hwn.  Gan hynny, rwyf wedi gosod dyletswydd eang ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ag unrhyw bersonau y bydd y canllawiau’n effeithio arnyn nhw ac unrhyw bobl eraill y maen nhw’n credu eu bod yn briodol.  Mae'r Bil drafft hefyd yn darparu ar gyfer monitro'r ddyletswydd staffio diogel yn unol â’r gweithdrefnau a’r fframweithiau presennol, er mwyn lleihau unrhyw weinyddiaeth ychwanegol sy’n deillio ohono.

 

Yn olaf, mae’r Bil drafft yn cynnwys gofyniad bod rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r ddeddfwriaeth a rhoi manylion ei heffaith ar amrediad o ddangosyddion nyrsio diogel.  Mae'r rhain yn ddangosyddion allweddol a fydd yn helpu i fesur perfformiad GIG Cymru, er mwyn sicrhau bod lefelau staffio diogel yn gwella canlyniadau i gleifion ac amodau gwaith i’n staff.

 

Yn dibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad ychwanegol hwn, fe allai’r Bil gael ei newid o ran y drafftio ac o ran materion technegol cyn imi ei gyflwyno’n ffurfiol i'r Cynulliad Cenedlaethol.  Wrth ei gyflwyno'n ffurfiol byddaf hefyd yn cyhoeddi Memorandwm Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol i ategu’r broses graffu fanwl y mae'n ofynnol ei chael cyn y penderfyniad terfynol a ddylai ddod yn ddeddf gwlad neu beidio. 

 

Gan hynny, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech ganfod amser i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn a gadael imi gael eich barn chi neu farn eich sefydliad ar y Bil drafft a'r hyn y mae'n ceisio’i gyflawni.  Mae’r Bil drafft wedi’i gyhoeddi hefyd ar wefan y Cynulliad er mwyn caniatáu i gynifer o bobl â phosibl anfon eu sylwadau.

 

Rhaid i'r Bil gael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol erbyn mis Rhagfyr 2014 ac er mwyn cadw at y dyddiad cau hwnnw, y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 12 Medi 2014.

 

Sylwch ei bod yn bosibl y byddaf am gyhoeddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn a ddaw i law. Wrth wneud hynny, byddaf yn cydymffurfio â pholisi preifatrwydd y Cynulliad Cenedlaethol, sydd i’w weld yma.  Os hoffech i’ch enw gael ei dynnu oddi ar eich ymateb, dylech wneud hynny’n glir. 

 

Byddaf yn edrych ymlaen at gael eich sylwadau a diolch yn fawr ichi am eich amser.

 

Yn gywir

 

Kirsty Williams

Aelod Cynulliad Brycheiniog a Sir Faesyfed

 

 

Ymatebion

Anfonwch eich ymatebion drwy’r ebost i Consultation.NurseStaffingBill@Cymru.gov.uk

 

Neu drwy’r post at:

Tom Jackson

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Tŷ Hywel

Bae Caerdydd

CF99 1NA